Cafodd
Mick ei eni ar y 24ain o Fedi 1947 yn Loughborough, a gafodd ei
gyflogi gyntaf fel athro gwyddoniaeth yn Barrow-in-Soar - ac fel
canlyniad, dysgodd yn yr Amwythig a Market Drayton. Yn 1977,
gadawodd y swydd i ddod yn ffermwr, ac mae wedi gweithio ar ran
ffermio a cymunedau gwledig ers hynny.
Yn y
80au, dechreuodd Mick chwarae ran bwysig yn yr NFU yn yr ardal, a
cododd i fod yn gadeirydd sirol yr NFU yn 1991, ac yna daeth yn
gynrychiolydd sirol yn Llundain. Hefyd mi ddaeth yn gynghorydd y
Democratiaid Rhyddfrydol i ddyffryn Banw yn 1994, ble gychwynnodd
cynllun adfywhad cymunedol llwyddiannus fel cadeirydd fforwm tref
Llanfair. Roedd yn gadeirydd sefydledig "Primestock Producers
Cymru", cwmni-cydweithredol cenedlaethol ffermwyr, ac hefyd helpodd
i sefydlu Menter Gwledig Trefaldwyn.
Ym
1994, cynhyrchodd a chyflwynodd Mick raglen i ffermwyr ar Radio
Maldwyn, a chychwyn cynllun i fyfyrwyr i ymweld â ffermydd. Mi
adawodd ei etholiad fel AC i Drefaldwyn ym 1999 amser iddo gario
ymlaen i weithio i'w gymuned ac i'w gynrychioli ar raddfa
genedlaethol.
Tra ei
fod yn y Cynulliad, mae Mick wedi gweithio i gael canlyniadau go
iawn i Sir Drefaldwyn. Yn enwedig mae wedi hyrwyddo ac sicrhau
llaeth yn rhad ac am ddim ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol un,
wedi ysgrifennu strategaeth biomas Cymru a chyfrannu at sefydlu
Cronfa Ysgolion Bychain Cymru.
Ar
amaethyddiaeth, mae cysyniad Mick o Gyswllt Ffermio, gwasanaeth
marchnata rhad ac am ddim i ffermwyr, wedi cael ei dderbyn gan y
Cynulliad ac mi fydd yn cael ei weithredu ym mis Mai. Mae hefyd wedi
ymgyrchu yn llwyddiannus dros greadigaeth panel apêl annibynnol i
ddatrys dadleuon cymhorthdal. Ac i'r GIC (NHS), mae'r Democratiaid
Rhyddfrydol yn cefnogi'r cynlluniau i gyflwyno profion gweld a
dannedd am ddim, a chael mwy o ddoctoriaid a nyrsiau ar yr un pryd.
Mae'r
amgylchedd yn fater hynod o bwysig i Mick, ac mae o'n gadeirydd ac
aelod sefydledig o'r "National Assembly
Sustainable Energy Group"
(NASEG) sydd yn cario ymlaen i dyfu ac ennill dylanwad ac
adnabyddiaeth. Mae'r grwp yn hyrwyddo datblygiad diwydiant egni
cynaliadwy glan, gwyrdd yng Nghymru a fydd yn dangos y ffordd i
Brydain a gweddill y byd.